Anogydd Cyflogadwyedd, Cymraeg Hanfodol (Dyddiad Cau 16/06/26)
Careers WalesJob Description
Ydych chi’n edrych am swydd lle rydych yn ysbrydoli a chynorthwyo pobl i feddwl am eu gyrfa yn y dyfodol? A oes gennych sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol? Os felly, rydym yn edrych am gyfathrebwyr hyblyg ac effeithiol sydd yr un mor gartrefol yn cyfathrebu â chwsmeriaid ar lafar neu wyneb-yn-wyneb ag ydynt yn defnyddio cyfathrebu digidol (dros y ffôn, dros y we neu’r cyfryngau cymdeithasol) er mwyn darparu gwybodaeth a chyngor i’n cwsmeriaid.
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu cyfarwyddyd a hyfforddiant gyrfaoedd hanfodol, annibynnol, di-duedd a dwyeithog i bobl o bob oedran yng Nghymru, gan gynnwys y rhaglen newydd Cymru’n Gweithio.
Anogydd Cyflogadwyedd, Cymraeg hanfodol, swydd llawn amser yng Nghanolfan Gyrfa Wrecsam, 37 awr yr wythnos/llawn amser Dydd Llun-Dydd Gwener.
Apply for this Job
Submit your application for the Anogydd Cyflogadwyedd, Cymraeg Hanfodol (Dyddiad Cau 16/06/26) position at Careers Wales.
Apply Now Save for Later