Uwch Athro/Athrawes, Arweinydd yr Ysgol
Ysgol Gymraeg LlundainJob Description
Am yr Ysgol
Ydych chi’n athro neu’n athrawes brofiadol sy’n barod i arwain ysgol Gymraeg fach, arbennig ac unigryw?
Mae Ysgol Gymraeg Llundain yn cynnig profiad addysgol na cheir yn unman arall yn Lloegr. Fel ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, rydym yn rhoi cyfle i blant Cymraeg ddysgu, chwarae, datblygu a ffynnu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r ysgol yn fach, yn gynnes ac yn agos at ei chymuned. Mae pob plentyn yn cael ei adnabod yn dda, ac mae’r berthynas rhwng staff, rhieni, gofalwyr a llywodraethwyr yn rhan ganolog o’n cryfder.
Mae Cymreictod yn rhan fyw o’n hysgol. Mae ein disgyblion yn cymryd rhan yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ymweld â San Steffan, ac yn treulio amser yng Ngwersyll yr Urdd yn Llangrannog. Mae’r Gymraeg, diwylliant Cymru a hunaniaeth Gymraeg wrth galon popeth rydym yn ei wneud.
Y Rôl
Mae hon yn rôl arwain ran-amser i athro neu athrawes brofiadol sy’n dymuno cael effaith uniongyrchol ac yst...
Apply for this Job
Submit your application for the Uwch Athro/Athrawes, Arweinydd yr Ysgol position at Ysgol Gymraeg Llundain.
Apply Now Save for Later